Judges 14

Samson yn priodi

1Dyma Samson yn mynd i lawr i Timna. Yno roedd merch ifanc wedi dal ei lygad, un o ferched y Philistiaid.

2Pan aeth yn ôl adre dyma fe'n dweud wrth ei dad a'i fam, “Dw i wedi gweld merch ifanc yn Timna – un o ferched y Philistiaid. Ewch i'w nôl hi i fod yn wraig i mi.”

3Ond dyma ei rieni'n ateb, “Mae'n rhaid bod yna ferch ifanc rywle – un o dy berthnasau; un o dy bobl dy hun. Mae'r Philistiaid yn baganiaid
14:3 paganiaid Hebraeg, “heb eu henwaedu”
. Pam ddylet ti fynd atyn nhw i gael gwraig?”

“Ewch i'w nôl hi. Hi dw i eisiau. Mae hi'n bishyn.”

4(Doedd ei dad a'i fam ddim yn sylweddoli mai'r Arglwydd oedd tu ôl i hyn i gyd, a'i fod yn creu cyfle i achosi helynt i'r Philistiaid. Y Philistiaid oedd yn rheoli Israel ar y pryd).

5Dyma Samson yn mynd i lawr i Timna gyda'i rieni. Pan oedd wrth ymyl gwinllannoedd Timna dyma lew ifanc yn rhuthro ato. 6A dyma Ysbryd yr Arglwydd yn dod arno'n rymus a dyma fe'n rhwygo'r llew a'i ladd gyda dim ond nerth braich, fel petai'n fyn gafr bach ifanc. (Ond wnaeth e ddim dweud wrth ei rieni beth roedd wedi ei wneud). 7Yna aeth Samson yn ei flaen i Timna a siarad â'r ferch ifanc. Roedd e wir yn ei ffansïo hi.

8Beth amser ar ôl hynny aeth Samson i Timna i'w phriodi hi. Ar ei ffordd aeth i weld beth oedd ar ôl o'r llew oedd wedi ymosod arno. Cafodd fod haid o wenyn yn byw yn sgerbwd yr anifail a bod mêl ynddo. 9Dyma fe'n crafu peth o'r mêl gyda'i ddwylo a'i fwyta wrth gerdded. Aeth yn ôl at ei rieni a rhoi peth o'r mêl iddyn nhw i'w fwyta. (Ond wnaeth e ddim dweud wrthyn nhw ei fod wedi crafu'r mêl allan o sgerbwd y llew).

10Ar ôl hyn dyma ei dad yn mynd gydag e i Timna i weld y ferch. A dyma Samson yn trefnu parti, am mai dyna oedd dynion ifanc oedd am briodi yn arfer ei wneud bryd hynny. 11Pan welodd y Philistiaid Samson dyma nhw'n rhoi tri deg o ffrindiau i gadw cwmni iddo yn y parti. 12A dyma Samson yn dweud wrthyn nhw, “Gadewch i mi osod pos i chi. Os rhowch chi'r ateb i mi cyn diwedd y parti mewn wythnos, gwna i roi mantell newydd, a set o ddillad newydd i'r tri deg ohonoch chi. 13Ond os allwch chi ddim datrys y pos, bydd rhaid i bob un ohonoch chi roi mantell a set o ddillad newydd i mi.”

Felly dyma nhw'n dweud wrtho, “Iawn, gad i ni glywed beth ydy dy bos di.”

14A dyma ddwedodd e:

“Daeth bwyd o'r bwytäwr;
rhywbeth melys o'r un cryf.”

Aeth tri diwrnod heibio a doedden nhw ddim yn gallu meddwl am yr ateb.

15Y diwrnod wedyn dyma nhw'n mynd at wraig Samson a'i bygwth: “Tricia dy ŵr i ddweud beth ydy'r ateb i'r pos, neu byddwn ni'n dy losgi di a teulu dy dad. Wnest ti'n gwahodd ni yma i'n gwneud ni'n fethdalwyr?”

16Felly dyma wraig Samson yn mynd ato a dechrau crïo ar ei ysgwydd. “Ti'n fy nghasáu i. Dwyt ti ddim yn fy ngharu i. Ti wedi rhoi pos i rai o'r bechgyn ond dwyt ti ddim wedi dweud wrtho i beth ydy'r ateb.”

“Ond dw i ddim hyd yn oed wedi dweud wrth dad a mam. Wyt ti wir yn disgwyl i mi ddweud wrthot ti?”

17Buodd hi'n crïo ar ei ysgwydd nes oedd y parti bron ar ben. Yna ar y seithfed diwrnod dyma Samson yn dweud yr ateb wrthi am ei bod hi wedi swnian gymaint. A dyma hi'n mynd i ddweud wrth y dynion ifanc.

18Cyn iddi fachlud y noson honno dyma ddynion y dref yn mynd at Samson a dweud, “Beth sy'n fwy melys na mêl? A beth sy'n gryfach na llew?”

A dyma Samson yn dweud, “Fyddech chi ddim wedi datrys y pos heb gymryd mantais o'm gwraig i!”
14:18 heb gymryd mantais o'm gwraig i Hebraeg, “aredig gyda fy heffer i.”

19A dyma Ysbryd yr Arglwydd yn dod arno'n rymus. Aeth i Ashcelon a lladd tri deg o ddynion. Cymerodd eu dillad a'u rhoi i'r dynion oedd wedi ateb y pos. Roedd wedi gwylltio'n lân ac aeth adre at ei rieni. 20Dyma'i wraig yn cael ei rhoi i'r un oedd wedi bod yn was priodas iddo.

Copyright information for CYM